Mae Tachwedd 15fed 2022 yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes y mudiad yng Nghymru.;xNLx;100 mlynedd yn ôl, llwyddodd y Blaid Lafur yng Nghymru i sicrhau goruchafiaeth etholiadol, gan ennill mwyafrif y seddi a sefydlu gwreiddiau Sosialaidd a gwerthoedd arweiniol cadarn a sicrhaodd bod cymaint yn cael ei gyflawni oddi ar hynny.;xNLx;
Ffurfiwyd Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Cyffredinol a Bwrdeistrefol (NUGMW) ym 1924 yn dilyn uno Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Nwy a Chyffredinol, Undeb Cenedlaethol Cyfunedig Llafur, a Chymdeithas y Gweithwyr Bwrdeistrefol.
Sefydlwyd y Blaid Lafur yn 1900, dan yr enw 'The Labour Representation Committee'. Daeth Ymdarddodd yr LRC o'r Blaid Lafur Annibynnol a sefydlwyd gan Keir Hardie ym 1893. Cenhadaeth Hardie oedd perswadio'r undebau llafur i dynnu eu cefnogaeth i'r Blaid Ryddfrydol yn ôl ac i gefnogi'r mudiad llafur oedd yn datblygu. Erbyn 1900 roedd Hardie wedi ennill cefnogaeth Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) a'r Gymdeithas Fabian ar y chwith i helpu i sefydlu'r LRC. Pwrpas y blaid newydd hon oedd cael gweithwyr i gael eu hethol i gynrychioli buddiannau'r dosbarth gweithiol a'r mudiad Llafur yn y Senedd.
Etholwyd Keir Hardie i'r Senedd yn 1900 dros Ferthyr Tudful. Yn yr un flwyddyn helpodd i ffurfio'r Pwyllgor Cynrychiolaeth Llafur a gafodd ei ailenwi'n ddiweddarach fel y Blaid Lafur. Ar ôl etholiad 1906, dewiswyd Hardie fel arweinydd seneddol cyntaf y Blaid Lafur. Ymddiswyddodd yn 1908 ac fe’i olynwyd gan Arthur Henderson, a threuliodd weddill ei flynyddoedd yn ymgyrchu dros achosion fel pleidlais i fenywod, hunanreolaeth i India, a gwrthwynebiad i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw yn 1915.
Etholwyd Keir Hardie yn arweinydd y blaid yn Nhŷ’r Cyffredin, ond nid oedd yn dda iawn am ymdrin â gwrthdaro mewnol ac ymddiswyddodd o’r swydd yn 1908. O hynny ymlaen ymroddodd ei egni i hyrwyddo’r Blaid Lafur a hyrwyddo cydraddoldeb, yn arbennig yn achos y bleidlais i ferched. Ym 1910, etholwyd 40 o ASau Llafur i'r senedd a rhoddodd Keir Hardie y gorau i arweinyddiaeth y blaid i George Barnes.
Ar ôl ennill 29 sedd yn etholiad cyffredinol 1906, daeth y Pwyllgor Cynrychiolaeth Llafur i'w adnabod fel y 'Blaid Lafur'.
Gyda Keir Hardie, creodd MacDonald y Pwyllgor Cynrychiolaeth Llafur yn 1900 ac, mewn cytundeb â'r Rhyddfrydwyr, roedd ymhlith yr ASau Llafur cyntaf i'w ethol ym 1906. Ef oedd Arweinydd y Blaid Lafur Seneddol 1911-14 a 1922-31. Ef oedd Prif Weinidog cyntaf Llafur, gan wasanaethu yn 1924 ac eto rhwng 1929 a 1931. Wedi cwymp y Llywodraeth Lafur yn 1931, gwasanaethodd fel Prif Weinidog yn y Llywodraeth Genedlaethol hyd 1935.
Derbyniodd Lloyd George wahoddiad i ffurfio llywodraeth yn Rhagfyr 1916. Cafodd ei gydnabod fel y gŵr a enillodd y rhyfel, ac yn 1918 enillodd y glymblaid fwyafrif enfawr. Hwn oedd yr etholiad cyntaf i fenywod gael pleidleisio. Ym 1919 arwyddodd Gytundeb Versailles, a sefydlodd Gynghrair y Cenhedloedd a setliad iawndal rhyfel.
Rhoddodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 y bleidlais i fenywod dros 30 oed os oeddynt yn bodloni cymwysterau eiddo penodol. Rhoddodd yr un Ddeddf y bleidlais i bob dyn dros 21 oed.
Etholwyd Syr Charles Edwards yn etholiad cyffredinol 1918 yn Aelod Seneddol dros etholaeth newydd Bedwellte yn Sir Fynwy. Daliodd y sedd honno nes iddo ymddeol o'r Senedd yn etholiad cyffredinol 1950. Gwnaethpwyd ef yn Gyfrin Gynghorydd ym 1940, ac o 1940 hyd 1942 ef oedd prif chwip y llywodraeth yn y Llywodraeth Glymblaid adeg y rhyfel.
Fe'i penodwyd yn Swyddog Rhanbarthol Cydffederasiwn y Fasnach Haearn a Dur ac yn Etholiad Cyffredinol 1918 daeth yn Aelod Seneddol dros Gastell-nedd. Rhwng 1919 a 1925 bu'n Chwip y Blaid Lafur ac yn 1924 daeth yn Drysorydd Aelwyd y Brenin am gyfnod byr.