Hanes y We Gymraeg
Llinell amser o hanes y we a'r rhyngrwyd Gymraeg o'ch safbwynt chi, y bobol wnaeth ei ddefnyddio a'i adeiladu.
Mae hon yn hanes wedi ei ffurfio gan bobl y we, y rhithfro, am fis yn nechrau 2014 gofynwyd i bobl ychwanegu cerrig milltir, digwyddiadau neu brofiadau pwysig, neu gynnwys ar y we oedd yn arwyddocaol un ai'n bersonol iddyn nhw, neu'n ehangach. ;xNLx;;xNLx;Roedd cyfle cyfyngedig i gyfrannu yn ;xSTx;a href="http://www.tiki-toki.com/timeline/entry/84932/Hanes-y-We-Gymraeg/";xETx;syth ar y llinell amser;xSTx;/a;xETx;, ar ;xSTx;a href="https://twitter.com/search/realtime?q=%23hanesywegymraeg";xETx;Twitter;xSTx;/a;xETx;, ;xSTx;a href="https://www.facebook.com/pages/Hanes-y-We-Gymraeg/472968482761205";xETx;Facebook;xSTx;/a;xETx;, ar ;xSTx;a href="http://hanesywegymraeg.com";xETx;y wefan;xSTx;/a;xETx; ac mewn sesiwn arbennig yn ;xSTx;a href="http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_-_Ionawr_2013";xETx;Hacio'r Iaith;xSTx;/a;xETx;. ;xSTx;br;xETx; Gofynwyd hefyd i gyfranwyr geisio rhoi dolen i'r ffynhonnell fel bod pawb yn gallu darllen rhagor. ;xNLx;;xNLx;Rhedodd y prosiect rhwng dechrau Ionawr a'r 8fed o Chwefror gan gynnwys cyflwyniad yn y Llyfrgell Genedlaethol ar y 6ed Chwefror fel rhan o ;xSTx;a href="http://www.llgc.org.uk/index.php?id=5953&L=1";xETx;arddangosfa Dot Dot Dash: Cymru'n Cyfathrebu;xSTx;/a;xETx;.;xNLx;;xNLx;Darllenwch ragor a thrafodwch ar: ;xSTx;a href="http://hanesywegymraeg.com";xETx;http://hanesywegymraeg.com;xSTx;/a;xETx;
1989-08-15 00:00:00
Neges Gymraeg gyntaf ar Usenet
Yn ôl ymchwil Rhys Jones ar ddechreuadau'r Gymraeg arlein, y neges gyntaf Gymraeg sy'n bosib ei darganfod drwy archifau Google erbyn hyn yw'r neges hon gan Rennie Bidgood o AT&T Bell Labs: "I need someone to help me translate the following: Yn nwfn swyn ei fynwes O Caf lonydd caf le i huno -Ben Bowen"
1991-08-06 00:00:00
Dyddiad geni'r we
"Un dyddiad allweddol yw 6ed AWst 1991 - y diwrnod lle rhoddwyd dolenni i'r egin-gôd cyfrifiadurol ar gyfer y www ar y grwp trafod alt.hypertext discussion fel bod eraill yn gallu ei lawrlwytho a chwarae efo fo. Ar y diwrnod hwnnw aeth y we yn fyd eang."
1992-11-14 07:06:41
Welsh-L
Rhestr trafod Cymraeg ar y rhyngrwyd.
1993-02-04 12:05:16
Y ffeil sain Gymraeg gyntaf
Ebostiwyd at restr drafod Welsh-L gan Roger Vanderveen. (cyfraniad di-enw o sesiwn Hacio'r Iaith)
1994-06-24 00:00:00
Cwrs Cymraeg ar lein
Cwrs Cymraeg enwog Mark Nodine - o bosib y wefan gynta yn y Gymraeg?!
1994-09-01 18:43:10
Tudalennau Cartref
Man cychwyn gwefannau personol.
1995-03-21 23:10:13
Creu soc.culture.welsh
Pleidleiswyd i greu grŵp newyddion soc.culture.welsh ar y 21 Mawrth 1995. Dyma'r cyhoeddiad o'r bleidlais.
1995-04-01 12:36:39
Gweinydd Apache
Fe ryddhawyd fersiwn cyhoeddus cynta gweinydd gwe Apache, sylfaen llawer o wefannau hyd heddiw.
1995-04-13 18:43:10
Curiad
Lansio gwefan cerddoriaeth Curiad.
1995-05-02 14:41:18
Gwe-Awê - Cymuned Gymraeg
Gwefan gan Rhys Jones yn hyrwyddo y gymuned Gymreig ar y we. Cyfeiriadur o wefannau a phobl.
1995-05-17 02:53:20
Erthygl: Compuserve yn atal y gymraeg ar fforymau
"Eitem fer ar dudalen flaen y Western Mail yn cofnodi y sgandal pan wnaeth Compuserve wahardd Cymraeg ar ei fforymau am nad oedd hi'n bosib iddyn nhw eu cymedroli." Western Mail, 3 Awst 1995
1995-06-01 04:24:48
Cofrestru cymru.org a wales.com
Cofrestru cymru.org a wales.com; ymgais gyntaf i greu 'domain name' i Gymru a'r Gymraeg
1995-06-20 13:04:15
Y Rhyngrwyd ar raglen Uned 5 / Gwefan Uned 5
Ymddangosiad cyntaf y We Gymraeg ar raglen blant Uned 5, S4C gyda Nia Elin a Keith Morris. 20 Mehefin 1995.
1995-06-21 11:15:45
Tafod Tafwys
Cylchgrawn i ddysgwyr Llundain wedi ei gyhoeddi ar y we gan Lynne Davies.
1995-07-16 07:55:46
Erthygl: "Naw wfft i fyd modem..."
Colofn Richard Williams yn y Wales on Sunday'n trafod y Rhyngrwyd.
1995-08-11 02:53:20
Erthygl: Yr Eisteddfod ar y We
"Erthygl yn ystod wythnos Eisteddfod Abergele 1995 - y cynta lle roedd defnydd o'r Rhyngrwyd yn amlwg ar y maes. Roedd gwybodaeth am yr Eisteddfod yn cael eu roi ar y we gan gwmni Technoleg GWE."
1995-08-13 18:43:10
R-Bennig
Gwefannau R-Bennig
1995-09-01 00:00:00
Cymru.net
Sefydlwyd darparwr rhyngrwyd Cymreig yn Abertawe. Fe'i brynwyd gan NTL/Virgin Media erbyn 2000
1995-11-01 12:26:03
Creu gwefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Dechreuodd y wefan ar y parth aber.ac.uk yna chofrestru ar cymdeithas.org yn Nhachwedd 1996. Mae'r tudalennau cyntaf dal ar y wefan.
1995-11-08 10:57:46
Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y we am y tro cyntaf
Ceir cyfeiriad at 'dudalen gartref' gyntaf y Llyfrgell ar restr drafod Welsh-L ar y dyddiad hwn.
1996-01-01 20:50:33
Archifo'r We
Gwasanaeth gwerthfawr yn archifo gwefannau.
1996-02-20 22:36:52
Caffi Seiber Caerdydd
Agorwyd caffi seiber yng Nghaerdydd
1996-03-01 14:38:19
Heno yn cyflwyno'r We
Dau Siân yn cyflwyno'r we i wylwyr Heno yn nyddiau'r modem. Dyddiad ansicr ond dechrau 1996.
1996-06-01 09:03:08
Gwefan soc.culture.welsh
Cyhoeddi 'cwestiynau cyffredin' grwp Usenet soc.culture.welsh ar y we.
1996-07-22 09:03:08
Lansio gwefan BBC Cymru Wales
Lansiwyd gwefan gynta BBC Cymru yn ystod Sioe Llanelwedd - gwefan y tu allan i grafangau canolog y BBC yn Llundain!
1996-07-30 22:22:36
Ysgolion Gwynedd
Gwefannau ar gyfer ysgolion Gwynedd
1996-08-12 18:30:48
Eisteddfod Genedlaethol
Roedd gan yr Eisteddfod wefan syml erbyn 1996 a mae wedi ei ddatblygu yn gyson ers hynny.
1996-10-01 04:24:48
Darlledu Cyber Wales ar BBC Cymru Wales
Cyfres 3 rhan yn sôn am y Rhyngrwyd. Cyd-fynd â lansio gwefan BBC Cymru (www.bbc.wales.com).
1996-10-01 04:24:48
Gareth Jones yn trafod
Elinor Jones yn cyfweld Gaz Top am arddangosfa am y Rhyngrwyd.
1996-10-01 10:57:46
Arddangosfa arlein gyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yn ail hanner 1996 (nid yw'n hollol eglur eto pryd) rhoddwyd arddangosfa David Lloyd George ar wefan y Llyfrgell yn ddwyieithog.
1996-10-01 21:01:48
www.bbc.wales.com yn lansio
(Gwe Technologies) Roedd yn gyfuniad o wybodaeth gorfforaethol, gwybodaeth gyffredinol am raglenni, Y Gerddorfa a Ceefax.
1996-10-02 22:04:11
Recordiau Sain
Gwefan y cwmni recordiau.
1996-12-01 13:04:15
Rebel ar y We
Y gyfrol Gymraeg gyntaf i'w gosod ar y we fyd-eang. Cyfrol o gerddi gan Robin Llwyd ab Owain. Newidwyd enw'r wefan ddeng mlynedd wedyn
1997-01-15 00:00:00
Erthygl ar y We yn Barddas
Cyhoeddwyd erthygl ar y we yn Barddas. Fe'i danfonwyd gan yr awdur (Robin Llwyd ab Owain) i Welsh-L fel drafft, fel atodiad i'r ebost (gweler y ddolen isod).
1997-07-01 04:24:48
Fideo: Ysgol Rhydywaun, Aberdâr ar y we ym 1997
1997-07-01 06:38:04
Gwefan Dic Sais
Gwefan ddychan Dic Sais a sefydlwyd ym 1997 yn ol y dudalen ar archive.org.
1997-07-30 22:22:36
Dyna Hwyl!
Cwrs Cymraeg aml-gyfrwng ar CD-ROM. Un o'r gwefannau cynta i ddefnyddio'r we i werthu cynnyrch.
1997-08-01 05:36:09
Rhwydwaith Cymru
Porth i Gymru a ddatblygwyd gan y WDA. Cyfeiriadur gwefannau yn bennaf.
1997-08-17 15:05:32
SpeechDat Cymru
Prosiect gan BT/Prifysgol Abertawe i ddatblygu technoleg adnabod llais ar gyfer y Gymraeg.
1997-12-01 12:25:33
Gwefan BBC Cymru Wales
12 tudalen ddwyieithog corfforaethol yn cael eu diweddaru yn chwarterol. Tudalennau i Wales Today, Pobol y Cwm, Radio Cymru a Radio Wales.
1998-01-01 05:36:09
Y Cynulliad a Llywodraeth Cymru
Gwefannau cynnar y Swyddfa Gymreig a'r Cynulliad
1998-05-01 02:48:08
BBC yn gwelifo Newyddion ar-alw
BBC yn dechrau llifo Newyddion ar-alw. Dyma’r tro cyntaf i raglen newyddion teledu Gymraeg gael ei chyflwyno i gynulleidfa y tu hwnt i S4C ers 1982, a’r tro cyntaf erioed i fod ar gael i gynulleidfa y tu hwnt i Gymru – yn y DU ac ar draws y byd.
1998-05-01 02:48:08
Straeon newyddion Cymraeg cyntaf ar wefan y BBC
Menter gyntaf adran Newyddion BBC Cymru i greu deunydd newyddion arlein Cymraeg. Bu’r safle yn rhedeg am dair wythnos yn ystod cyfnod Uwch-Gynhadledd Ewrop yng Nghaerdydd y flwyddyn honno. Penderfynwyd cadw’r wefan i fynd ar ôl y Gynhadledd, gyda gwasanaeth byw oedd yn diweddaru. Roedd hwn yn wasanaeth dwyieithog.
1998-07-04 02:48:08
Gwelifo BBC Radio Cymru
Gwelifo BBC Radio Cymru’n fyw am y tro cyntaf (o ddigwyddiad Parti Ponti)
1998-08-01 02:48:08
Llif byw o BBC Radio Cymru o'r Eisteddfod
Llif ‘Real Media’ o BBC Radio Cymru o’r Eisteddfod Genedlaethol - y tro cyntaf i’r ŵyl fod ar gael yn rhyngwladol.
1998-08-06 00:00:00
Darlith: Euryn Ogwen Williams "Byw Ynghanol Chwyldro"
Darlith ddylanwadol ar sut y byddai'r we a'r rhyngrwyd yn newid y cyfryngau.
1998-08-19 06:20:36
Dimensiwn 4
Caffi Seiber yng Nghaernarfon
1999-01-01 21:04:38
Usenet Cymru
Datblygiad hierarchaeth wales.* ar Usenet
1999-02-17 07:55:46
Erthygl: Y Cynulliad a chyfieithu awtomatig
Colofn gan Dilwyn Roberts-Young ar gyfer Y Cymro yn edrych ar bresenoldeb cynnar y Gymraeg ar wefannau'r Cynulliad (neu ddim) a datblygiad newydd cyfieithu peiriannyddol ar-lein InterTran.
1999-03-01 02:48:08
Newyddion am Etholiadau'r Cynulliad arlein
Adran Newyddion BBC Cymru yn creu deunydd newyddion arlein Cymraeg am dri mis ar gyfer Etholiadau cyntaf y Cynulliad.